TYSTIOLAETH I'R PWYLLGOR IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A CHWARAEON - GRADDFA'R BROBLEM HUNANLADDIAD YNG NGHYMRU

 

CYFLWYNIR GAN PROMO-CYMRU - RHAGFYR 2017

 

 

1.      Cyflwyniad

 

Cyflwynir y papur hwn ar ran ProMo-Cymru gan Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, yn cyfeirio at wybodaeth gan y gwasanaeth Meic. Mae ProMo-Cymru yn fodlon i'r cyflwyniad a'r dystiolaeth yma gael ei rannu a'i wneud yn gyhoeddus.

 

Edrychwch ar Atodiad 1 am wybodaeth a manylion cyswllt ProMo-Cymru a Meic.

 

 

2.      Beth yw raddfa'r broblem?

 

2.1      Mae Meic yn ymdrin â hyd at 6000 o gysylltiadau'r flwyddyn ar y ffôn, neges testun a negeseuo sydyn

2.2      Yn ddiweddar, bu cynyddiad yn y nifer o bobl ifanc sydd yn cysylltu ynglŷn â hunanladdiad - o fod â syniadau hunanladdol i weithredu cynllun i ladd eu hunain

2.3      Yn y cyfnod Ebrill - Medi 2017, derbyniodd Meic dros 2500 o gysylltiadau. Roedd dros 10% ohonynt yn cyflwyno gyda phroblemau iechyd meddwl, ac roedd dros 65 o'r rhain yn cyflwyno gyda materion hunan-niweidio, a dros 100 gyda hunanladdiad, gyda dros 10% yn arwain at gamau oedd yn ymofyn ymyriad yr heddlu.

2.4      Roedd cynyddiad sylweddol rhwng 55% a 62% yn y nifer o gysylltiadau oedd yn cyflwyno agweddau o hunan-niweidio a hunanladdiad yn ôl eu trefn, rhwng cyfnod Ebrill-Mehefin 2017 a Gorffennaf-Medi 2017

2.5      Mae'r niferoedd yma wedi dyblu ers yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol (2016)

 

 

 

3.      Pam fod hyn yn digwydd (/cynyddu)?

 

Nid oes gan Meic y soffistedigrwydd sydd ei angen i ddangos cydberthynas diamheuol a chadarn, ond mae adborth gan blant a phobl ifanc sydd wedi cysylltu â'r gwasanaeth wedi darparu tystiolaeth storïol sydd yn awgrymu'r ffactorau cyfrannol canlynol:

 

·        Y trosiad o lencyndod i oedolaeth

·        Pwysau cymdeithasol/amgylcheddol: addysg, cyflogaeth, tai, ariannol

·        Profiad personol, yn enwedig profiadau sydd ddim yn iach / disgwyliadau perthnasau e.e.: bwlio, amlygiad i bornograffi, dryslyd am ryw a rhywioldeb, ymddygiad gorfodol/rheoli, camdriniaeth hanesyddol

 

 

4.      Sut mae Meic yn helpu?

 

Mae Meic yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'r bobl ifanc sydd yn teimlo fel lladd eu hunain, yn cael syniadau hunanladdol neu'n niweidio eu hunain. Gwneir hyn drwy'r dulliau canlynol:

 

·        Rhoi gofod i'r bobl ifanc i drafod eu sefyllfa heb feirniadaeth

·        Cefnogi'r bobl ifanc i gadw cymaint o reolaeth â phosib o'u sefyllfa a'r wybodaeth rhannir, hyd yn oed pan fydd angen cysylltu â'r gwasanaethau brys

·        Hyfforddi holl staff i ddefnyddio'r model ASIST a chyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid fel dulliau i helpu cadw pobl ifanc yn ddiogel

·        Pan fydd person ifanc yn gallu adnabod rheswm penodol am y teimladau hunanladdol (e.e. digartrefedd, camdriniaeth sylweddol, perthynas ymosodol ayb.) rydym yn rhoi cefnogaeth i fynd i'r afael â'r materion yma

·        Eirioli ar ran pobl ifanc i gael mynediad i'r gwasanaethau iechyd meddwl cefnogol mae ganddynt hawl iddynt

·        Helpu pobl ifanc i ddatrys materion gall gyfrannu at feddyliau a theimladau hunanladdol

·        Helpu pobl ifanc i adnabod cefnogaeth gyfredol trwy rwydweithiau cefnogol presennol a thrwy asiantaethau allanol fel Meddygon Teulu, y Samariaid, gwasanaethau cefnogol hunanladdiad arbenigol fel HOPEline Papyrus neu wasanaethau lleol sydd yn ymdrin â materion iechyd meddwl, fel Mind.

·        Cyfeirio pobl ifanc at wybodaeth ac adnoddau ar-lein at bwrpas hunan effeithiolrwydd

·        Cysylltu â'r heddlu pan fydd person ifanc mewn perygl dybryd neu mewn perygl o niwed arwyddocaol, pan nad yw'n bosib ffurfio cynllun diogelwch, ac maent yn datgelu eu bod yn bwriadu gweithredu ar gynllun a marw drwy ladd eu hunain

 

 

5.      Ychydig o esiamplau

 

5.1  Meddyliau hunanladdol, ymyriad cynt, amrywiaeth o bwysau, gweithrediadau wrth symud ymlaen:

 

Cysylltodd person ifanc â Meic ar y ffôn i drafod ei deimladau hunanladdol. Cadarnhaodd nad oedd ganddo gynlluniau syth i ladd ei hun. Eglurodd bod ei berthynas wedi torri, bod yr ysgol yn straen, a'i berthynas gyda'i fam wedi chwalu. Roedd hyn yn dilyn gwahaniad ei rieni o ganlyniad ymddygiad ymosodol ei fam tuag at ei dad yn hwyr yn y nos. Roedd wedi mynd i fyw at ei dad.

 

Eglurodd hefyd ei fod wedi hunan-niweidio yn y gorffennol gan dorri a niweidio ei hun ac yn ddiweddar nid oedd yn bwyta'n iawn. Datgelodd manylion pellach am ei hanes gyda sawl ymyriad gan gynnwys asesiad iechyd meddwl nad oedd angen dilyniant a chwnsela nad oedd wedi helpu llawer meddai.

 

Cadarnhaodd y person ifanc nad oedd eisiau marw mewn gwirionedd, er y teimladau hunanladdol, ac roedd eisiau teimlo'n well. Cadarnhaodd bod ganddo rwydwaith cefnogol dda a gallai siarad â'i dad; ni theimlai fel y gallai siarad â'i ffrindiau gan fod ganddynt broblemau eu hunain. Cadarnhaodd  Cynghorydd Eiriolwr y Llinell  Gymorth nad oedd y person ifanc yn bwriadu lladd ei hun, a chyfeiriodd y person ifanc at Papyrus am gefnogaeth arbenigol yn ogystal â The Mix a Gwefannau Tawelu Meic am wybodaeth ac adnoddau pellach ar faterion iechyd meddwl a sut i ymdrin â nhw. Diolchodd y person ifanc y cynghorydd am siarad ag ef a dywedodd ei fod yn teimlo'n llawer gwell.

 

5.2 Cynllun i hunanladd, trallod difrifol, hanes, cynnal ymyriad, ymyriad yr heddlu:

 

Cysylltodd gwryw 24 oed ar y ffôn mewn gofid ac yn crio. Dywedodd ei fod yn teimlo fel lladd ei hun ac roedd angen cymorth. Gofynnodd y cynghorydd eiriolwr os oedd ganddo gynllun, dywedodd ei fod eisiau lladd ei hun ac y gallai wneud hyn mewn sawl ffordd, yna rhoddodd y ffôn i lawr.

 

Galwodd y person ifanc eto ar ôl ychydig funudau ac atebodd yr un cynghorydd y galwad. Rhoddodd y person ifanc ei enw a'i dref leol, yn dweud ei fod angen cymorth, a'i fod wedi ceisio trywanu ei hun yn gynharach yn y dydd ond nad oedd y gyllell yn ddigon miniog. Gofynnwyd a oedd ganddo gynllun arall a dywedodd y person ifanc ei fod wedi cymryd cocên ac wedi yfed 24 o duniau. Eglurodd y cynghorydd ei fod yn poeni am ei ddiogelwch a gofynnodd am wybodaeth cysylltu/dynodi pellach, ond gwrthododd.

 

Roedd y person ifanc yn cydnabod ei fod angen cymorth, roedd wedi bod ar feddyginiaeth yn y gorffennol ond nid oedd wedi ymweld â'i feddyg teulu ac nid oedd yn derbyn cefnogaeth iechyd meddwl yn bresennol. Roedd wedi dod o hyd i'w fam yn farw ychydig fisoedd yn ôl ac wedi bod yn y carchar pan oedd yn ifanc. Roedd wedi ceisio lladd ei hun sawl gwaith, wedi cymryd gorddos a neidio o ffenestr. Dechreuodd grio eto, yn siarad am ddarganfod ei fam yn farw. Dywedodd ei fod eisiau siarad amdani.

 

Roedd y person ifanc yn crio a ddim yn gallu siarad ar y pwynt yma. Yna dywedodd bod ganddo raff yn ei ystafell ac roedd wedi clymu hwn o amgylch ei wddf; roedd lleisiau yn dweud wrtho wneud hynny. Cyfarwyddodd y cynghorydd iddo wrando ar ei llais hi yn hytrach na'r lleisiau yn ei ben a bod angen iddo dynnu'r rhaff o'i wddf ac i gymryd 5 cam i ffwrdd - cysurodd y cynghorydd ei bod yno i helpu ei gadw'n ddiogel. Dywedodd y person ifanc nad allai ac roedd yn crio.

 

Ailadroddodd y cynghorydd cysur a chyfarwyddiadau. Roedd y person ifanc yn ddistaw, gofynnodd y cynghorydd os oedd dal yno a chadarnhaodd y person ifanc ei fod wedi tynnu'r rhaff o'i wddf ac wedi camu i ffwrdd. Canmolodd y cynghorydd y person ifanc, dywedodd bod angen iddo wrando ar ei llais hi nawr. Dywedodd y person ifanc ei fod wedi colli'i gocên, treuliodd amser yn chwilio amdano, roedd y cynghorydd yn ymuno yn y sgwrs yma er mwyn tynnu sylw o'r rhaff. Dywedodd y person ifanc bod rhaid iddo chwydu ac aeth i'r toiled.

 

Ar ôl dychwelyd dywedodd ei fod wedi clymu'r rhaff o amgylch ei wddf eto, ailadroddodd y cynghorydd y cyfarwyddiadau fel cynt a chydymffurfiodd y person ifanc, derbyniodd glod a chysur. Eglurodd y cynghorydd wrth y person ifanc bod cymorth ar ei ffordd a gallai dderbyn y cymorth yma yn gynt os byddai'n rhoi ei fanylion, fe wnaeth hynny a chafodd hyn ei basio ymlaen i'r heddlu. Arhosodd y cynghorydd ar y ffôn gydag ef wrth ddisgwyl am yr heddlu, gan roi cyfarwyddiadau iddo i aros ar y ffôn nes iddynt gyrraedd ac yna pasio'r ffôn iddynt. Fe wnaeth hynny ac fe'i gadwyd yn ddiogel.

 

 

6.      Beth fydda'n helpu?

 

6.1      Mae pobl ifanc angen gwasanaethau sydd yn cael ei arwain gan bobl ifanc, yn gyfeillgar i bobl ifanc, yn berthnasol iddynt ac ar gael pan fyddant ei angen - yn enwedig pan fyddant yn gofyn am gymorth neu mewn trallod

6.2      Mae llencyndod ac oedolaeth ifanc, fel mae'n cael ei gydnabod nawr, yn gyfnod o amser cryn sylweddol (arddegau cynnar i 20'iau canol/hwyr). Mae'n gyfnod o drawsnewid arwyddocaol yn gorfforol, emosiynol a niwrolegol, ac mae angen i wasanaethau fod yn ddigon ystwyth a hyblyg i gydnabod hyn ac i fod yn berthnasol ac yn gynorthwyol.

6.3      Mae angen i'r gwasanaethau yma fod ar gael wyneb i wyneb yn ogystal ag ar-lein - mae'n anodd iawn i lawer o bobl ifanc i siarad am y pethau yma, yn enwedig wyneb i wyneb ac ar lafar weithiau

6.4      Mae angen i'r gwasanaethau yma gynnwys ymyriad cryno/cynnar yn ogystal â chefnogaeth a thriniaeth gyfredol

6.5      Mae angen llwybr hawdd ac esmwyth i bobl ifanc gael i mewn (dychwelyd), symud rhwng a chael allan o wasanaethau, yn ogystal â chael eu dal gan wasanaethau pan fydd disgwyl yn anochel

 

 

 

 

 

7.      Byddai ProMo-Cymru yn croesawu...

 

7.1      Unrhyw gais am gymorth mewn perthynas â chyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio gwybodaeth ar-lein/digidol gyda phlant a phobl ifanc a gwasanaethau cefnogol yn gyffredinol

7.2      Unrhyw gais am gymorth mewn perthynas â chasglu data, gwybodaeth a gwerthuso er mwyn deall natur ac ehangder hunanladdiad a hunan-niweidio yn well

7.3      Unrhyw gais am gefnogaeth a chyfranogiad mewn unrhyw rwydweithiau cenedlaethol/rhanbarthol wyneb i wyneb neu ar-lein i rannu gwybodaeth ac ymarfer gorau, gan gynnwys gwasanaethau llinell gymorth benodol

7.4      Unrhyw estyniad/cyflwyniad o fentrau hyfforddi'r hyfforddwyr i alluogi pwll ehangach (profiad bywyd ac arall) o hyfforddwyr ASIST ac YMHFA

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 1 – GWYBODAETH AM PROMO-CYMRU A MEIC

 

GWYBODAETH AM MEIC (rheolir gan ProMo-Cymru)

 

Meic ydy'r gwasanaeth llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru hyd at 25 oed.

 

Cyfrinachol a dwyieithog, ar gael 16 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn rhwng 8am a hanner nos.

 

Gellir cael mynediad i Meic ar y ffôn (llinell tŷ a ffôn symudol), neges testun, neges sydyn, e-bost a gwefan: www.meiccymru.org/cym/

 

Ers 2011 mae Meic wedi delio gyda bron i 40000 o gysylltiadau yn cyflwyno bron i 50000 o broblemau, gyda'r prif rai yn:

•          perthnasau teulu 11%

•          perthnasau eraill 11%

•          iechyd meddwl 10%

•          hawliau a dinasyddiaeth 8%

•          iechyd corfforol 7%

 

GWYBODAETH AM PROMO-CYMRU

 

Gweledigaeth:         I rymuso pobl a chymunedau i greu newid positif

 

Datganiad:               I wrando, chwalu rhwystrau ac adeiladu pontydd er mwyn cyflwyno newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon, technoleg ddigidol a gweithio â'n gilydd.

             

Cyfeiriad:      17 Stryd Gorllewin Bute, Bae Caerdydd, CF10 5EP

Rhif ffôn:      XXXXXXXXXXX

Gwefan:        www.promo.cymru

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant: 1816889

Elusen Gofrestredig: 1094652